Skip links

External: VOLUNTEER Driver (Plas Madoc community)

We Are Plas Madoc (WAPM) angen gyrwyr gwirfoddol i ymuno â'u tîm Cludiant Cymunedol; mae galw cynyddol gan y gymuned sydd angen cludiant, a oes gennych ychydig oriau yr wythnos i’w sbario?

Mae cynllun Cludiant Cymuned We Are Plas Madoc yn darparu cludiant hygyrch i bawb yn y gymuned Plas Madoc a'r ardaloedd cyfagos - mae ganddynt ddau gerbyd trydan; mae un ohonynt yn addasadwy ar gyfer mynediad i bobl anabl. Mae'r cynllun yn darparu gwasanaeth drws i ddrws ar gyfer apwyntiadau ysbyty a meddygon, siopa, digwyddiadau cymdeithasol, ymweld â theulu a ffrindiau, a mwy. Cydlynnir a rheolir y cynllun gyda chymorth Cydlynydd Cludiant y Gymuned, sy'n gyfrifol am redeg y cynllun o ddydd i ddydd.

Os oes gennych frwdfrydedd am yrru a hoffech helpu eraill trwy eu cludo i apwyntiadau, yna mae hyn i chi! Darperir hyfforddiant ac offer.

Gofynion:

  • Trwydded yrru lawn a glân
  • Dros 25 oed

Os oes gennych ddiddordeb a hoffech gael ffurflen gais neu unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â: weareplasmadoc@avow.org | 07394 465113

This website uses cookies to improve your web experience.
cyCymraeg