(English) Info/T&Cs
Hyfforddiant Ymwybyddiaeth am Ddim Gwahaniaethu – 10 Ionawr 2020
Dyddiad: 10 Ionawr
Amser: 10yb – 12:30yp
Lleoliad: Tŷ Avow, 21 Egerton Street, Wrexham, LL11 1ND
Cost: £15
Gadw lle: ewch i https://bit.ly/2mvfhy2
Nodau ac Amcanion
Hanelu at sefydliadau sy’n dymuno cynyddu eu heffeithiolrwydd o amlygu a herio gwahaniaethu.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys cyflwyniad / gloywi i ymwybyddiaeth o wahaniaethu, nodweddion adnabyddadwy, diffinio cydraddoldeb ac amrywiaeth, enghreifftiau o wahaniaethu, atebion ymarferol ac adnoddau sydd ar gael.
Cofiwch gadw lle!
i archedbu lle ar cwrs ewch i’n gwefan isod, e-bost neu fel arall communitycourses@avow.org, neu ffoniwch ni ar 01978 312556.
Hyfforddiant AVOW: Cymryd Cofnodion – 15 Ionawr
Dyddiad: 15 Ionawr
Amser: 9:30yb – 2:30yp
Lleoliad: Tŷ Avow, 21 Stryd Egerton, Wrecsam, LL11 1ND
Cost: £17.50*
Gadw lle: ewch i https://bit.ly/2mvfhy2
Nodau ac Amcanion
Dyma’r canlynladau dysgu: Deall sut i ysgrifennu cofnodlon cyfarfod cywir ac eglur ac ymarfer sgillau ysgrifennu cofnodlon i slchrau bod y rheiny sy’n bresennol yn derbyn y wybodaeth angenrheidiol.*
*Gosfyngiad o 10% i aelodau
Hyfforddiant AVOW: Cymhorthfa Gwirfoddoli Cymru 28 & 29 Ionawr
Hyfforddiant AVOW: Diogelu – 7fed Chwefror
Dyddiad: 7fed Chwefror
Amser: 10:30yb – 2yp
Lleoliad: Ty Avow, 21 Egerton Street, Wrexham, LL11 1ND
Cost: £12.50pp
Gadw lle: ewch i https://bit.ly/2mvfhy2
Mae’r deilliannau dysgu yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr:
- Gwybod eich rôl eich hun mewn perthynas â diogelu oedolion a phlant, a phobl ifanc, rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
- Deall sut mae unigolion yn cael eu hamddiffyn rhag niwed, cam-drin ac esgeulustod.
- Gwybod sut i adnabod gwahanol fathau o niwed cam-drin ac esgeulustod.
- Gwybod y newidiadau diweddar i ddiogelu yn sgil Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gan gyfeirio at weithdrefnau diogelu.
Cofiwch gadw lle!
I archebu lle ar y cwrs ewch i’n gwefan isod, neu e-bost fel arall communitycourses@avow.org, neu ffoniwch 01978 312556
Hyfforddiant AVOW: Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith – 12fed Chwefror
Dyddiad: 12fed Chwefror 2020
Amser: 9yb – 5yp
Lleoliad: Ty Avow, 21 Stryd Egerton, Wrecsam, LL11 1ND
Cost: £65 y person/dydd
Gadw lle: Ewch i https://avow.org/en/training-booking/
Mae hyfforddiant yn cael ei achredu a’i ddarparu gan Goleg Cambria.
Ar ô’l cwblhau’r hyfforddiant, dylai’r ymgeisydd allu:
- Deal rôl swyddog cymorth cyntaf gan gynnwys pwysigrwydd cofnodi digwyddiadau a defnyddio’r cyfarpar sydd ar gael a phwysigrwydd atal trawsheintio.
- Asesu’r sefyllfa a gweithredu’n ddiogel, yn brydlon ac yn effeithiol.
- Delio â Casualty anymwybodol
- Gweinyddu CPR
- Delio â clwyfau, gwaedu a sioc
- Delio â mân anafiadau
Cofiwch gadw lle!
I archedbu lle ar y cwrs ewch i’n gwefan www.avow.org, e-bost fel arall communitycourses@avow.org neu ffoniwch ni ar 01978 312556.
Mae cyfraddau eraill yn gwneud cais am corfforaethol.
Cyrsiau a hyfforddiant gydag Cymunedau am Waith – Medi i Ionawr 2019
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cefnogaeth i holl breswylwyr Wrecsam sy’n dymuno gweithio, gwirfoddoli neu hyfforddi.
Rydym ni hefyd yn cynnig cefnogaeth yn y gweithle i bobl ar inwcm isel sy’n dymuno gwella eu sgilliau neu ailhyfforddi.
Gallwch gael eich atgyfeirio i’r tîm trwy eich hyfforddwr gwaith, asiantaeth neu fe allwch chi atgyfeirio eich hun.
Cyfylltwch â’r Tîm:
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch cfw@wrexham.gov.uk, neu ffoniwch 01978 802418 / 820520. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau ffoniwch 01978 318853 / 820520
Gweler ynghlwm: courses-final-welsh
(English) Green Team: Employability Skills and Green Community – 12 week programme
Rhaglen Hydref Hyfforddiant Lles Cymru
Cwrs: Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Dydd: Dydd Gwener Hydref 11fed
Amser: 9.30-4.30
Lleoliad: Bangor
Cost: £90 *Darperir cinio
Cwrs: Darparu Cymorth Cyllidebu
Dydd: Dydd Mawrth 22 Hydref
Amser: 9.30-4.30
Lleoliad: Bangor
Cost: £90 *Darperir cinio
Cwrs: Siarad â Phobl am Arian – Dulliau Effeithiol gan Defnyddio Mewnweliad Ymddygiad
Dydd: Dydd Mawrth 19 Tachwedd
Amser: 9.30-4.30
Lleoliad: Bangor
Cost: £90 *Darperir cinio
Cwrs: Credyd Cynhwysol
Dydd: Dydd Mawrth 3ydd Rhagfyr
Amser: 9:30-12:30(Cwrs hanner dydd)
Lleoliad: Bangor
Cost: £50 *Gostyngiadau ar gael
(English) Volunteer Training: Cold Weather Shelter – October to December
Mesur Effaith Gymdeithasol – Rhagfyr 2019
(English) Free Financial Capability Training for Organisations – December & January
Gweminar: Cefnogaeth Ystadegol i’r Trydydd Sector – 2 Rhagfyr
Dyddiad: 2 Rhagfyr
Amser: 14:00 – 15:00
Lleoliad: Gweminar
Cost: Am Ddim
Gadw lle: ewch i https://bit.ly/2XVsJcR
Amcan gweminar
I godi ymwybyddiaeth o Ystadegwyr i Brosiect Cymdeithasol a pham bod dadansoddi data yn bwysig i fudiadau trydydd sector.
Cynnwys
Rydym yn gwybod bod casglu data a dadansoddi yn gallu teimlo ychydig yn anodd! Mae Ystadegwyr i Gymdeithas yn gynllun peilot wedi ei ariannu gan y Loteri Fawr i gynnig cefnogaeth ystadegol i fudiadau trydydd sector.
Mae CGGC yn falch o gael cynnig y gweminar mewn partneriaeth ag Ystadegau i Gymru.
Deilliannau Dysgu
Erbyn diwedd y gweminar bydd cyfranogwyr yn gallu:
- Bod yn ymwybododl o’r amrywiaeth o gynlluniau cefnogi dadansoddol i’r trydydd sector a sut gallant helpu mudiadau trydydd sector.
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn
Unrhyw un sydd â diddordeb mewn dadansoddi data, gwerthuso ac arfer effaith.
(English) Understanding Social Enterprise – 3rd & 4th December
Gweminar: Elusen Ddibynadwy – 11 Rhagfyr
Dyddiad: 11 Rhagfyr
Amser: 14:00 – 15:0
Lleoliad: Gweminar
Cost: Am Ddim
Gadw lle: Ewch i https://bit.ly/2QYEwpm
Nod y weminar
I ddarparu gwybodaeth gychwynol am farc ansawdd yr Elusen Ddibynadwy i godi ymwybyddiaeth ynghylch sicrwydd ansawdd yn y trydydd sector.
Cynnwys
Mae’r Elusen Ddibynadw yn broses syml sydd wedi’i chynllunio i’ch helpu chi i redeg eich sefydliad yn fwy effeithiol ac effeithlon. Mae’n nodi beth mae sefydliadau eu hangen ar waith i sicrhau arferion llywodraethu cadarn, systemau ariannol a rheoli risg cywir, a system ddibynadwy ar gyfer mesur canlyniadau.
Bydd y weminar hon yn egluro’r broses, buddion a strwythur y marc Elusen Ddibynadwy.
Deillianau Dysgu
Erbyn diwedd y weminar bydd y cyfranogwyr yn gallu:
- bod yn ymwybodol o Wobr Buddsoddi Mewn Gwirfoddolwyr
- Deall y broses a’r costau
- Deall buddion y Wobr
- Cael gwybodaeth am brosiect marc ansawdd CGGC yng Nghymru
Ar gyfer pwy mae’r sesiwn
This session will be useful for any registered charity with an interest in Trusted Charity quality mark, but will be particularly relevant for:
- Cyllidwyr yn gweithio gyda mudiadau gwirfoddol
- Awdurdodau lleol sy’n cefnogi mudiadau gwirfoddol
- Ymddiriedolwyr mudiadau gwirfoddol sydd â diddordeb mewn sicrwydd ansawdd
- Uwch swyddogion sydd â rhan uniongyrchol mewn rheoli gwirfoddolwyr a sicrwydd ansawdd.
[/sntoggle]
(English) Mental Health First Aid (MHFA) Wales – 11th & 12th December
(English) Working with Gypsy, Roma and Traveller Communities Training Day – 17th December
Llesiant yn y gweithle – 15 Ionawr
Dyddiad: 15 Ionawr
Amser: 10yb – 1yp
Lleoliad: Bangor
Cost: £20 – £80 y person/dydd
Gadw lle: ewch i https://bit.ly/35C36QW
Yn ôl ymchwil mae dros un rhan o dair o’r boblogaeth yn y gweithle yn dioddef problemau iechyd meddwl fel iselder, straen neu bryder Mae llawer o bobl wedi dioddef problemau iechyd meddwl neu yn adnabod rhywun sydd wedi dioddef hynny ac mae hyn yn wir iawn mewn perthynas â’r gweithle.
Mae mwy o gyflogwyr a rheolwyr yn cydnabod yr angen i fuddsoddi mewn hyfforddiant i helpu eu staff a’u corff i ddeall iechyd meddwl yn well a sut i wneud y gweithle yn iachach yn feddyliol.
Fe fydd yr hyfforddiant yma yn rhoi gwell dealltwriaeth i gyflogwyr a rheolwyr o’r amrediad o broblemau iechyd meddwl a sut maen nhw’n effeithio ar y gweithle. Fe fyddwn yn edrych ar ffyrdd o wella iechyd meddwl a llesiant cadarnhaol a sut y mae buddsoddi mewn arferion da yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar bawb.
Mae’r cwrs yn cynnwys
- Beth ydy llesiant yn y gweithle a sut mae’n berthnasol i’m gweithle?
- Canllaw ar iselder, straen a phryder.
- Problemau iechyd meddwl cyffredin eraill yr ydych efallai wedi clywed amdanyn nhw ond wedi bod yn rhy ofnus i holi amdanyn nhw.
- Sut i drafod iechyd meddwl yn y gweithle.
- Sut i helpu cydweithiwr allai fod yn mynd drwy gyfnod anodd
- Creu gweithle sydd yn iachach yn feddyliol
- Cyflwyniad i ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer y gweithle a sut y gall hyn fod o fudd i’ch corff.
Ar gyfer
Mae’r sesiwn hyfforddi yma ar gyfer staff a rheolwyr sydd eisiau dysgu rhagor am y pwnc hwn a dulliau i’w weithredu.
Am yr Hyfforddwr
Mae Julie wedi’i hyfforddi ar lefel ôl raddedig mewn iechyd meddwl ac mae wedi derbyn hyfforddiant i gefnogi pobl drwy ddefnyddio amrediad o ymyriadau yn cynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, Therapi Gwybyddol Ymddygiadol, Therapi Byr yn canolbwyntio ar atebion a Chyfweld Ysgogiadol.
Mae Julie yn credu bod iechyd meddwl yn ymwneud â’r person cyfan, eu cymuned a’u cymdeithas. Mae’n ceisio gwella iechyd meddwl a llesiant drwy hyfforddiant perthnasol sy’n procio’r meddwl, gwella ymarferion yn y gweithle a chefnogi pobl i ofalu am eu llesiant.
Gwella Cyfathrebu drwy Gyffwrdd gyda phlant ac oedolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol – 23 Ionawr
Dyddiad: 23 Ionawr
Lleoliad: Bangor
Cost: £25 – £100 y person/dydd
Gadw lle: ewch i https://bit.ly/2qT1mEf
Mae’r Symud a Chyffrwdd Hoffus – y cwrs allweddol i gyfathrebu, yn delio gyda phwysigrwydd a blaengarwch gweithio gyda Chyffwrdd fel dull o gyfleu dealltwriaeth, diogelwch a seibiant o sylfaen o hoffter a gofalu sensitif i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, yn cynnwys awtistiaeth.
Yn ystod y profiad undydd yma fe fyddwch yn dysgu am y niwrowyddoinaeth y tu ôl i bwysigrwydd cyffwrdd hoffus yn nhermau sut mae’r unigolyn yn addasu i’r amgylchedd/datblygiad seicolegol y plentyn/datblygiad ysgogol, gwybyddol a hoffus/datblygiad iaith ac ymddygiad iach a chymdeithasu priodol.
Nodau’r Cwrs:
Y nodau ydy rhoi sylfaen dda i chi mewn gweithio gyda Synnwyr Cyffwrdd yn ogystal â sbardun i dechnegau symud creadigol ar gyfer adeiladu ymddiriedaeth a pherthynas, i leddfu pryder a datblygu synnwyr o lawenydd. Gellir gweithredu’r sylfaen yma yn eich gwaith gyda phlant ac oedolion.
Ar gyfer:
Diben y cwrs hwn ydy cynorthwyo pob gweithiwr proffesiynol fel gweithwyr cefnogi, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, rhieni yn ogystal â seicolegwyr a therapyddion. Mae ar eich cyfer chi os ydych yn gofalu am rhywun yn y cartref neu fel swydd.
Am yr Hyfforddwr
Mae Karen Woodley yn Seicotherapydd Symudiad Dawns Cofrestredig ac yn Arolygydd Clinigol sydd yn gweithio gyda chynghorwyr seicotherapiwtig a’r proffesiynau iechyd. Mae ganddi gyfoeth o brofiad gyda chleientiaid sydd ag anableddau dysgu. Karen oedd y cydgysylltydd hyfforddi arweiniol a’r uwch arweinydd sesiwn yn Ymddiriedolaeth Torch lle bu’n trefnu, cyflwyno a darparu eu rhaglen hyfforddi achrededig, yn cynnal grwpiau rhieni a’u gweithdai undydd ar gyfer cyfathrebu drwy gyffwrdd.
(English) safeTALK – Suicide Alertness for Everyone – 20th February
(English) Responding to Planning Applications & Maximising your Influence – 16th March
(English) CodeNation Courses – Ongoing
(English) FREE Mental Health Awareness Training with I CAN
Newyddlen Partneriaeth Datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol (SCWDP) Cychlythyr
Rydym wedi cyhoeddi rhaglen datblygu’r gweithlu rhanbarthol, lleol a phamffledyn hyfforddiant ar gyfer 2019/2020 ar ein gwefan.
Datblygwyd ein cynllyun lleol trwy ddefnyddio Dadansoddiad o Anghenion hyfforddi (TNA_ sy’n cael ei gwblhau gan ddarparwyr fel rhan o Arolwg Data Gweithluoedd Llywodraeth Cymru ac sy’n cefnogi’r Cynllun Gweithredu Treigl Rhanbarthol i ddarparu blaenoriaethau Strategaeth Gweithlu Gogledd Cymru.
- Cefnogi’r gweithlu gofal cartref i baratoi ar gyfer cofrestru a chefnogi gwybodaeth / rôl unigolion cyfrifol.
- Cefnogi hyfforddiant, datblygiad a chymwysterau rheolwyr gofal cymdeithasol.
- Cefnogi gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a chefnogi ymarfer.
- Cefnogi rhaglenni cymhwydo ac ôl-gymhwyso ar gyfer gwaith cymdeithasol.
- Cefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen i ddatblygu ei sgiliau mewn perthynas â gofal cymdeithasol.
- Galluogi’r gweithlu i ateb gofynion rheoliadol ar gyfer cymwysterau a/neu gofrestru.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant a chymwysterau cysylltwch â’r Uned Datblygu’r Gweithlu a: 01978 neu e-bost workforcedevelopment@wrexham.gov.uk
Ewch i: issue-4-july-2019-welsh
(English) Webinar: (PAYE) end-of-year expenses and benefits – Various
(English) Free Energy Advice Sessions with NEA Cymru – Ongoing
(English) HMRC Webinar – Online
(English) Free Online Courses with Business Wales – Ongoing
Hyfforddeiaethau Coleg Cambria – Yn Barhaus
Dyma fenter hyfforddi gan Lywodraeth Cymru wedi’i anelu at bobl ifanc 16 – 18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Mae sawl rheswm pam fod dysgwyr yn y sefyllfa hon; efallai nad ydy rhai ohonynt yn canolbwyntio ar eu gyrfa, efallai nad oes ganddynt y cymwysterau cywir i fynd ar gwrs, neu efallai nad oes ganddynt fawr o hunan-barch a hyder. Beth bynnag fo’r rheswm, gall y Rhaflen Hyfforddeiaeth, sydd ar gael ynb Ngholeg Cambria, gynnig atev iddynt. Daw pob atgyfeiriad i’r rhaglen drwy Gyrfa Cymru. Bydd pob atgyfeiriad yn cael ei asesu ar gyfer maes priodol y rhaglen Hyfforddeiaeth.
(English) Autism Awareness Certification – Online
Cymraeg Gwaith – Dygu Cymraeg Cymru
Rydym yn falch o gyhoeddi manylion ein cynllun newydd arloesol. Cymraeg Gwaith, rhaglen o hyfforddiant hyblyg sydd wedi ei hariannu’n llwyr. Eqch i’n gwefan dygucymraeg.cymru i ddarganfod mwy a chofrestru ar y cyrsiau.
Ewch i’n gwefan dysgucymraeg.cymru i ddarganfod mwy a chofrestru ar y cyrsiau
(English) Other courses in the region
(English) Training for Carers / Support Workers
(English) Please read the comments from people and organisations who have attended various training courses:
(English) Feedback
Cyfranogiad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc
Ystyr cyfranogiad yw gwrando ar blant a phobl ifanc a chydweithio â nhw fel dinasyddion gweithgar a all wneud cyfraniad pwysig o ran eu hysgolion, eu cymunedau a’u cenedl.
Rydym o’r farn bendant bod cynnwys plant a phobl ifanc yn allweddol, wrth i ni ddatblygu a chyflwyno deddfwriaeth, polisïau a rhaglenni. Ein bwriad yw parhau i wneud yn siŵr bod gan blant a phobl ifanc lais gweithredol, a’u bod yn gallu cyfrannu at waith y Llywodraeth hon.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi bod cynnwys pobl a chymunedau mewn modd effeithiol yn rhan ganolog o’r broses o wella llesiant, yn ogystal â bod yn un o’r pum ffordd o weithio a nodir yn y Ddeddf.
Mae’r sail ar gyfer cael lleisio barn i’w chael yn Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), sy’n nodi hawl plant a phobl ifanc i ddweud eu barn ynghylch yr hyn a ddylai ddigwydd, pan fo oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i sicrhau y caiff y farn honno ei hystyried.
Nod Craidd 5
Rydym wedi mabwysiadu CCUHP fel sail i’n holl waith ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac mae erthyglau CCUHP wedi cael eu crynhoi yn y Saith Nod Craidd ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae Nod Craidd 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael gwrandawiad a’u trin â pharch, ac y cydnabyddir eu hil a’u hunaniaeth ddiwylliannol.
Safonau ar gyfer Cyfranogiad Cenedlaethol
Ariennir ‘Plant yng Nghymru’ gan Lywodraeth Cymru i fod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer hawliau plant. Yn ddiweddar, maent wedi diweddaru’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad i adlewyrchu’r ethos hawliau sy’n rhan annatod o weithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad yn darparu canllawiau ar gyfer y ffyrdd gorau a mwyaf ystyrlon o wrando ar lais plant a phobl ifanc ac ymateb iddynt, yn unol ag Erthygl 12 o CCUHP.
Mae’r Safonau wedi cael eu hadnewyddu drwy bartneriaeth rhwng gweithwyr y Fforwm Ieuenctid a Chymru Ifanc, a chafodd y broses ei llywio drwy ymgynghori â phobl ifanc.
Mae’r Safonau ar gyfer Cyfranogiad yn nodi’r materion allweddol y dylai pob gweithiwr fod yn ymwybodol ohonynt wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Adolygodd y gweithgor a ymgymerodd â’r gwaith bob un o’r saith nod, gan sicrhau bod pob un yn adlewyrchu’r ethos hawliau sy’n rhan annatod o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Ar ôl lansio’r safonau ar eu newydd wedd, bydd canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi ynghylch proses y nod barcud a’r deunyddiau hunanasesu ar gyfer Awdurdodau Lleol sydd â thîm arolygu. Bydd sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn cael eu hannog i ymgymryd â’r broses hunanasesu er mwyn dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Safonau ar gyfer Cyfranogiad yn eu holl waith gyda phlant a phobl ifanc.
Cymru Ifanc
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i brosiect Cymru Ifanc, sy’n cael ei gynnal gan Blant yng Nghymru, sefydliad ambarél sy’n gweithio dros hawliau plant.
Mae Cymru Ifanc yn cydweithio â grwpiau, fforymau a chynghorau ieuenctid sydd eisoes yn bod i gasglu safbwyntiau a chlywed barn plant a phobl ifanc er mwyn i’w sylwadau ddylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisïau a rhaglenni.
Mae Cymru Ifanc hefyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gyrraedd plant a phobl ifanc sydd ar y cyrion, yn swil, dan anfantais, yn ddihyder, neu wedi’u hynysu, gan roi cyfle iddyn nhw hefyd leisio’u barn.
Cyfranogiad-Plant-a-Phoble-Ifanc-yng-Nghymru-Arfer-Da-2016