avow logo

AVOW

Corff llais y bobl newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol

Y Papur Gwyn: Mae gwasanaethau addas i’r dyfodol yn cydnabod angen am lais cryf i bobl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae CICau yn croesawu’r bwriad o greu llais cryfach i bobl ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Ond dydyn ni ddim wedi’n hargyhoeddi fodd bynnag y bydd y cynigion fel y’u hamlinellir yn y Papur Gwyn yn cyflawni hyn ac rydym yn bryderus y byddan nhw’n gwanhau yn hytrach na chryfhau y llais hwn yn y GIG.

Credwn y dylid dylunio a datbygu corff llais y bobl newydd, cryf, ystyrlon yng Nghymru, ar gyfer Cymru. Fe ddylem ddysgu oddi wrth ddulliau gweithredu a phrofiadau eraill ac adeiladu ar yr hyn a werthfawrogir oddi mewn i’n trefniadau cyfredol ein hunain.

Dros yr haf mae CICau wedi bod yn holi pobl beth sydd yn bwysig iddyn nhw ac rydym wedi edrych ar y gwahanol drefniadau ar draws y DU a thu hwnt. Fe wnaethom ystyried yn fanwl yr hyn y mae eraill wedi’i ddweud am gryfderau a gwendidau gwahanol fodelau.

O’n dadansoddiad rydym wedi datblygu amlinelliad ar gyfer cynnig amgen a gredwn sydd yn well i gyflawni’r dyheadau a nodir yn y Papur Gwyn.

Rydym wedi nodi ein syniadau isod, ac rydym eisiau gofyn am farn amrediad eang o bartneriaid fel y gallwn, gyda’n gilydd adeiladu cytundeb o amgylch model newydd ar gyfer y dyfodol.

Pam bod angen llais y bobl o gwbl?

Cytunwn gyda’r dyheadau a nodir yn y Papur Gwyn y dylai iechyd a gofal cymdeithasol gael pethau’n gywir iddyn nhw eu hunain trwy ymgysylltu’n barhaus gyda’u cymunedau.Gwyddom hefyd nad ydy’r cyrff yma ddim eto yn cael hyn yn gywir bob tro – ac ni chredwn y bydd deddfwriaeth newydd ar ei ben ei hun yn gwneud i hyn ddigwydd.

Ar y cyfan yng Nghymru does gennym ni ddim system iechyd a gofal wedi’i gyrru gan y farchnad. Mae’n bwysig felly bod ein gwasanaethau’n cael eu creu gyda, ac ar gyfer y bobl sydd yn eu defnyddio. Mae angen i wasanaethau ymgysylltu ar y materion y maen nhw’n meddwl amdanyn nhw a rhaid i bobl hefyd gael y cyfle i gael llais torfol ar y pethau sydd yn cyfrif fwyaf iddyn nhw.

Mae’n gyfrifoldeb ar y cyrff iechyd a gofal i ymateb yn briodol pan fo pryderon yn cael eu codi. Ond, efallai nad ydy pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf hyglwyf mewn sefyllfa i godi eu pryderon heb gefnogaeth annibynnol.

Dylai diben corff llais pobl newydd yng Nghymru felly:

“adlewyrchu barn a chynrychioli buddiannau pobl yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol”.

Beth ddylai corff llais y bobl wneud?

Dros yr haf rydym wedi gwrando ar yr hyn y mae pobl yng Nghymru yn meddwl sydd yn bwysig i gorff llais y bobl newydd. Rydym wedi edrych ar beth mae gwledydd eraill yn ei wneud a beth y mae adolygiadau annibynnol wedi’i ddweud am eu trefniadau. Rydym wedi myfyrio ar yr hyn sydd yn gweithio’n dda yn ein trefniadau cyfredol.

Rydym wedi defnyddio’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu i nodi beth rydym yn gredu ddylai fod yn elfennau craidd corff llais y bobl newydd i ateb ein hanghenion penodol yng Nghymru. Mae’r tabl canlynol yn nodi hyn:

Dylid trosglwyddo swyddogaethau a phwerau CIC i gorff llais y bobl newydd sydd yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol

 

Pam?
Hyrwyddo, cynghori a chefnogi darparwyr ar weithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori Mae helpu cyrff iechyd a gofal i gael pethau’n gywir y tro cyntaf yn well i unigolion a chymunedau

 

Monitro a gwerthuso effeithlonrwydd ymgysylltiad ac ymgynghori darparwyr

 

Gwirio bod gan bobl y cyfle i ddylanwadu a llywio eu gwasanaethau iechyd a gofal – ac nid i  wirio cydymffurfiaeth yn erbyn safonau ar gyfer ymgysylltu. Credwn bod hyn yn gweddu’n well gydag eraill

 

Annog a chefnogi ymgysylltiad cymunedau lleol trwy gyfranogiad eraill

 

 

 

Gan ddysgu oddi wrth yr Alban, credwn bod cyfle i wneud hyn yn wahanol ac yn well trwy adeiladu cynghrair gydag eraill fel bod gan bobl a chymunedau y cyfle gorau posibl i gael dweud eu dweud

Hwyluso a chydlynu gweithgareddau ymgysylltu a wneir gan eraill

 

Ymgysylltu’n uniongyrchol gyda chleifion, cleientiaid a’r rhai sydd yn gofalu amdanyn nhw tra’n cael mynediad i wasanaethau

 

 

 

Clywed gan bobl eu hunain am eu profiadau, gweld ein hunain ac ymateb mewn amser go iawn

Mynediad dirybudd i iechyd a gofal cymdeithasol lle bynnag mae gofal yn cael ei ddarparu

 

Ymgysylltu’n uniongyrchol gyda’r cyhoedd yn ehangach

 

Clywed yn uniongyrchol ar draws ein cymunedau i gasglu’r amrediad ehangaf o farn a phrofiadau

 

 

Cyfeirio a hyrwyddo cyngor a gwybodaeth am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Helpu pobl i ddarganfod yr wybodaeth maen nhw angen
Yr hawl i gael eu clywed mewn iechyd a gofal cymdeithasol (yn cynnwys ar newid i wasanaethau) gan:

 

–      Llunwyr polisi

–      Darparwyr gwasanaethau

–      Cyrff craffu

 

Fel bod llunwyr penderfyniadau mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn gwrando ac yn gweithredu ar farn a phrofiadau pobl
Craffu polisi, cynlluniau a pherfformiad iechyd a gofal yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol

 

Fel bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a bod gweithredu ar hynny wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel
Yr hawl i gymryd rhan wrth ddylunio a datblygu gwasanaethau (yn cynnig cynigion i newid gwasanaethau)

 

Fel bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a bod gweithredu ar hynny wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel
Cefnogi a darparu cymorth i unigolion sydd yn codi pryderon

 

Fel bod pryderon penodol pobl, yn enwedig y rhai mewn sefyllfaoedd hyglwyf, yn cael eu clywed a bod gweithredu ar hynny

 

Gosod safonau ar gyfer llywodraethu ei weithgareddau

 

Fel bod pobl ar draws Cymru yn gwybod yr hyn y gallant ei ddisgwyl oddi wrth eu corff llais y bobl, a bod yn sicr bod y gweithgareddau a gynhelir er eu budd o ansawdd uchel

 

Cefnogi gwelliant gwasanaethau trwy rannu syniadau, gwybodaeth a phryderon

 

Fel bod llunwyr penderfyniadau mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn gwrando ac yn gweithredu ar farn a phrofiadau pobl er mwyn gwella gwasanaethau i bawb

 

 

Swyddogaethau a phwerau ychwanegol i gorff llais y bobl newydd yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol

 

Pam?
Hawl i ymateb cyhoeddus ar bryderon a godwyd Fel bod llunwyr penderfyniadau yn atebol i unigolion a chymunedau a bod pobl yn gallu gweld effaith eu lleisiau

 

Yr hawl i gael eu clywed gan:

 

  • Rheoleiddwyr

 

Fel bod rheoleiddwyr mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn gwrando ac yn gweithredu ar farn a phrofiadau pobl

 

 

 

Yr hawl i graffu ar waith arolygwyr iechyd a gofal cymdeithasol, etc Fel bod y rhai sydd yn darparu sicrwydd eu hunain yn atebol i unigolion a chymunedau
Dylai fod gan ddarparwyr gwasanaethau ddyletswydd i hwyluso clywed yn uniongyrchol gan gleifion trwy anfon gwybodaeth ymlaen i gyn gleifion ac i gleifion cyfredol

 

Fel bod corff llais y bobl yn gallu clywed am bob agwedd o ofal pobl yn yr ysbyty ac allan o’r ysbyty ac ar draws iechyd a gofal cymdeithasol
Yr hawl i herio llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau ac adrodd pryderon i gyrff cyfrifol lle mae unrhyw safonau neu ofynion wedi’u torri yn berthynol i ymgysylltu ac ymgynghori

 

Fel bod llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau yn atebol dros eu gweithrediadau a’u penderyfniadau

 

Dydyn ni ddim yn credu y dylai fod gan gorff llais y bobl newydd y swyddogaethau, dyletswyddau na’r pwerau canlynol. Mae rhai o’r rhain yn ffurfio rhan o swyddogaethau cyfredol CICau tra bod eraill yn cael eu cynnig yn y Papur Gwyn

Swyddogaethau, dyletswyddau a phwerau

 

Pam na ddylai’r rhain fod yn rhan o gorff llais pobl newydd?

 

Datblygu safonau a chanllaw ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori

 

Mae profiad yn yr Alban yn dangos bod y cyfrifoldeb yma yn gweddu’n well gydag eraill.

 

Credwn mai cyfrifoldeb y Llywodraeth ydy gosod safonau.

 

Dylai’r corff llais y bobl newydd ac eraill lywio a dylanwadu ar osod y safonau yma

 

Darparu cyngor a gwybodaeth am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol Credwn mai cyfrifoldeb y cyrff iechyd a gofal cymdeithasol ydy hyn.

 

Rhaid i’r corff llais y bobl newydd gael yr hawl i herio gwasanaethau lle nad ydy’r cyngor a’r wybodaeth yn ddigonol, clir, hygyrch neu gywir.

Arolygu eiddo Credwn mai cyfrifoldeb cyrff arbenigol ydy hyn.

 

Cyfrifoldeb i ddatblygu modelau amgen i gynigion ar gyfer newid i wasanaethau lle na ellir dod i gytundeb Credwn na fyddai gan unrhyw gorff lleyg y gallu i gyflawni’r cyfrifoldeb yma
Yr hawl i gyfeirio at Weinidogion ar gynigion i newid gwasanaethau

 

Credwn na ddylai corff llais y bobl newydd fod yn gorff gwneud penderfyniadau ynghylch newid arfaethedig i wasanaethau. Dylai pob newid arfaethedig i wasanaethau fod yn destun craffu cyhoeddus.

 

Credwn y dylai’r math o ymgysylltu/ymgynghori ar newid i wasanaethau gydweddu gyda’r math o newid sydd yn cael ei gynnig.

 

Dylai’r trefniadau ar gyfer newid i wasanaethau sicrhau dull o weithredu cymesur a chyson ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Dydyn ni ddim yn ystyried bod penderfynu ar newid i wasanaeth boed yn sylweddol ai peidio o gymorth.

 

Lle nad ydy penderfyniadau yn cael eu hystyried yn rhai er lles y cyhoedd, yr her priodol ydy trwy adolygiad barnwrol

 

 

Sut y dylai corff llais y bobl newydd edrych?

Er mwyn i gorff llais y bobl newydd fod yn annibynnol credwn y dylid ei sefydlu fel endid cyfreithiol sengl ar sail annibynnol.

Credwn bod rhaid i ddyluniad trefnyddol corff llais y bobl newydd:

Credwn y dylai gwirfoddolwyr:

Rhaid i gorff llais y bobl newydd fod yn rhydd i benderfynu sut y mae’n recriwtio gwirfoddolwyr.

Rhif Elusen: 1043989 Rhif Cwmni Cyfyngedig trwy Warrant: 2993429 2017

Cynllun a datblygiad y wefan: Colony of Ants Web Design