{"id":187502,"date":"2020-03-25T16:42:08","date_gmt":"2020-03-25T16:42:08","guid":{"rendered":"http:\/\/avow.org\/?p=187502"},"modified":"2023-06-06T12:28:04","modified_gmt":"2023-06-06T12:28:04","slug":"benthyciadau-carlam-mewn-argyfwng","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/avow.org\/cy\/benthyciadau-carlam-mewn-argyfwng\/","title":{"rendered":"Benthyciadau Carlam Mewn Argyfwng"},"content":{"rendered":"<p>Rydym ni yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau\u2019r sector gwirfoddol yng Nghymru i\u2019w helpu drwy effeithiau gwaethaf llifogydd a\u2019r Coronafeirws.<\/p>\n<p>Wrth i rannau o Gymru ddod i delerau ag effeithiau\u2019r llifogydd diweddar, cawn ein hwynebu gan yr her nesaf, y\u00a0<a href=\"http:\/\/wcva.cymru\/cy\/datganiad-ar-y-coronafeirws\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Coronafeirws<\/a>. Nid yw effaith ymarferol wirioneddol yr un olaf yn eglur eto, ond mae canslo digwyddiadau, llai o ymwelwyr neu lai o werthiannau\u2019n bosibiliadau realistig iawn, a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar lif arian mudiadau\u2019r sector gwirfoddol ar hyd a lled y wlad.<\/p>\n<p>Mewn ymateb i hyn, mae\u00a0<a href=\"http:\/\/wcva.cymru\/cy\/cyllid\/buddsoddiad-cymdeithasol-cymru\/\" target=\"_blank\" rel=\"noopener\">Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru<\/a>\u00a0CGGC yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau\u2019r sector gwirfoddol yng Nghymru i\u2019w helpu drwy\u2019r effeithiau gwaethaf.<\/p>\n<p>Ar yr un pryd, mae\u2019r rheini \u00e2 benthyciad eisoes yn cael cynnig yr opsiwn o ohirio taliadau am gyfnod.<\/p>\n<p><strong>Benthyciadau carlam mewn argyfwng<\/strong><\/p>\n<p>Bydd y benthyciadau\u2019n cael eu teilwra i anghenion unigol pob ymgeisydd o ran swm, cyfnod a phroffil ad-dalu. Maen nhw\u2019n dechrau gyda dalen wag \u2013 beth sydd ei angen arnoch? Beth sy\u2019n eich siwtio orau o ran cyfnodau neu ad-daliadau?<\/p>\n<p>Sylweddolir bod cyflymder y broses benderfynu a chyflymder y cyllid sydd ar gael yn hollbwysig, fel y gall mudiadau ymateb yn gyflym wrth i bethau ddatblygu. Felly, rydyn ni am leihau\u2019r broses ymgeisio cymaint \u00e2 phosibl. Bydd hyn yn golygu y bydd y mwyafrif o fudiadau a gymeradwyir yn gweld yr arian yn eu cyfrifon banc o fewn saith niwrnod i gyflwyno ffurflen gais gyflawn (yn unol \u00e2 chael llofnod ar ddogfennaeth yn brydlon)<\/p>\n<p>Dyma\u2019r meini prawf cymhwyso: \u2013<\/p>\n<ul>\n<li>Menter gymdeithasol gorfforaethol neu elusen sydd wedi\u2019i leoli yng Nghymru<\/li>\n<li>Effaith y gellir ei dangos ar lif arian yn sgil y llifogydd neu\u2019r Coronafeirws<\/li>\n<li>Angen cael asedau newydd am eu bod wedi\u2019u difrodi mewn llifogydd<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gellir defnyddio\u2019r arian ar gyfer y canlynol: \u2013<\/p>\n<ul>\n<li>Cefnogi\u2019r llif arian<\/li>\n<li>Prynu asedau newydd yn lle\u2019r hen rai<\/li>\n<li>Pontio hawliadau yswiriant a dderbynnir<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>Pobl \u00e2 benthyciad eisoes<\/strong><\/p>\n<p>Os ydych chi\u2019n fenthyciwr cyfredol, mae\u2019n bosibl na fydd angen arian ychwanegol arnoch ar hyn o bryd, ond gallai eich llif arian gael ei effeithio yn y fath fodd fel y bydd talu eich ad-daliadau misol ar fenthyciad yn peri i chi gael trafferth dal dau ben llinyn ynghyd.<\/p>\n<p>Mewn achosion o\u2019r fath, byddwn yn hapus i dderbyn cais i ohirio ad-daliadau ar fenthyciad am gyfnod cytunedig.<\/p>\n<p><strong>Cysylltu<\/strong><\/p>\n<p>Os hoffech wneud cais am fenthyciad carlam mewn argyfwng neu ddiwygio\u2019r ad-daliadau cyfredol ar eich benthyciad, cysylltwch \u00e2 th\u00eem Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ar\u00a0<a href=\"mailto:sic@wcva.cymru\">sic@wcva.cymru<\/a>\u00a0neu 0300 111 0124.<\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rydym ni yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau\u2019r sector gwirfoddol yng Nghymru i\u2019w helpu drwy effeithiau gwaethaf llifogydd a\u2019r Coronafeirws. Wrth i rannau o Gymru ddod i delerau ag effeithiau\u2019r llifogydd diweddar, cawn ein hwynebu gan yr her nesaf, y\u00a0Coronafeirws. Nid yw effaith ymarferol wirioneddol yr un olaf yn eglur eto, ond mae [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":193773,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-187502","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-general"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/187502","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=187502"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/187502\/revisions"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/193773"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=187502"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=187502"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/avow.org\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=187502"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}