Lleisiau Bach-Galwad Allan Holiadur
Mae’r Arsyllfa Cymru ar Hawliau’r Plentyn yn brosiect ar y cyd hefo partneriaid rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae’n darparu fforwm ar gyfer ymchwil, trafodaeth, addysg a chyfnewid gwybodaeth ar yr hawliau dynol o blant a phobl ifanc, yn gweithio dros wireddu hawliau dynol drwy bolisi, ymarfer, eirioli a newid cyfreithiol.
(http://www.swansea.ac.uk/law/wales-observatory/)
Yn ein prosiect cyfredol Lleisiau Bach yn Galw Allan rhoddodd plant oed 7 – 11 adroddiad eu hunain i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn am y tro cyntaf. Ariannir y prosiect yma gan y Loteri Fawr ac rydym yn gweithio hefo plant o ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru. Bydd plant yn dysgu am eu hawliau ac am yr UNCRC ynghyd a chael eu hyfforddi fel ymchwilwyr i ymchwilio’r materiony dewiswyd ganddynt. Yn ogsytal a’r adroddiad a gyflwynwyd i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn y clwyiadau cyn – sesiynol yn Hydref 2015 mae’r prosiect yn gweithio o fewn cymunedau’r plant.
(https://www.lleisiaubach.org)
Dweud Dy Ddweud!
Mewn ymateb i sylwadau terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2016) cafodd yr holiadur ‘Lleisiau Bach-Galwad Allan Holiadur’ei ddylunio gan blant a bydd yn ymchwilio pynciau sy’n archwilio gwireddu mynediad plant a phobl ifanc i hawliau yng Nghymru.
Cymryd Rhan
Rydym yn gofyn i chi redeg yr holiadur hefo plant eich ysgol.
Caiff pob ysgol a gymerith ran yn yr holiadur gyfle i ennill CYFLE YMARFER AM DDIM ar ddulliau Plant fel Ymchwilwyr. Gallwch ddefnyddio’r dulliau hyn i blant ddysgu am faterion, a dysgu am ymchwil ac ymgynghori, gallent fynd a’i casgliadau i’r gymuned ehangach a all greu newid cadarnhaol.Gall hyn olygu newidiadau bach o fewn ysgolion i newidiadau mawr o ran polisi cenedlaethol.
Bydd yr ennillydd hefyd yn cael TALEB AMAZON £100!
I Lenwi’r holiadur
Defnyddiwch y linc yma i gymryd rhan:
https://www.surveymonkey.co.uk/r/dweud
Diolch, a phob lwc!
Cysylltwch a’r isod am fwy o wybodaeth:
Helen Dale h.dale@swansea.ac.uk (De)
Arwyn Roberts a.b.roberts@bangor.ac.uk (Gogledd)