Sefydliad Elusennol Trusthouse yn cyhoeddi newidiadau yn 2018
Mae Sefydliad Elusennol Trusthouse yn rhoi grantiau i fudiadau elusennol bychain, sydd wedi hen ennill eu plwyf, ym Mhrydain sy’n mynd i’r afael â heriau lleol yn ymwneud ag amddifadedd trefol enbyd, neu mewn cymunedau gwledig ynysig a bregus.
Dylai grwpiau sy’n bwriadu ymgeisio am gyllid gan y Sefydliad fod yn ymwybodol o’r newidiadau pwysig canlynol:
- Dylai pob cais newydd am grant Bach, Safonol a Mawr a Grant ar gyfer Neuadd Bentref/Canolfan Gymunedol gael eu gwneud bellach drwy ffurflenni cais arlein y Sefydliad.
- Ni fydd y Sefydliad mwyach yn derbyn ceisiadau na ofynnwyd amdanynt ar gyfer hosbisau a hynny o 31 Mawrth 2018. Tan hynny, mae ceisiadau am grant ar gyfer hosbisau yn dal i fod ar bapur ac maent ar gael ar y dudalen ‘Grants’, o dan y pennawd ‘Hospices’, ar wefan y Sefydliad.
- Mae’r Sefydliad yn bwriadu lansio polisi a meini prawf grant newydd o 1 Gorffennaf 2018. Dywed y bydd y mwyafrif o’r ymgeiswyr presennol yn dal i fod yn gymwys o dan y meini prawf newydd.
- Cyfarfod y Pwyllgor Grantiau ym mis Mai fydd y cyfarfod olaf ar gyfer ceisiadau o dan y meini prawf presennol a bydd angen gwneud ceisiadau erbyn diwedd Mawrth/dechrau Ebrill 2018.
Bydd manylion llawn y polisi a’r meini prawf grant newydd yn cael eu darparu pan y’u cyhoeddir ym mis Gorffennaf 2018.
Mae manylion pellach ar gael drwy ffonio 020 7264 4990.