avow logo

AVOW

Fentoriaid a Hyfforddwyr

Fentoriaid a Hyfforddwyr

IoF Cymru yn chwilio am fentoriaid a hyfforddwyr

Mae Cymdeithas Codi Arian Cymru yn chwilio am ymgeiswyr priodol i fod yn fentoriaid/hyfforddwyr i elusennau bach a chanolig yng Nghymru i’w helpu i greu a chyflawni strategaethau codi arian.

Mae hwn yn brosiect newydd a chyffrous a fydd yn rhoi cyfle i fentoriaid sydd â dirnadaeth briodol o sefydliadau codi arian yng Nghymru helpu elusennau i elwa ar eu gwybodaeth a’u profiad.

Rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o godi arian i elusennau yng Nghymru, yn ogystal ag ymgynghorwyr profiadol.

I gael ffurflen gais  a phecyn gwybodaeth, anfonwch gais at AlisonP@institute-of-fundraising.org.uk neu ffoniwch 02920 340062

 

Rhif Elusen: 1043989 Rhif Cwmni Cyfyngedig trwy Warrant: 2993429 2017

Cynllun a datblygiad y wefan: Colony of Ants Web Design